_ _ _ _____ ___ __ __ _(_) | _(_)___ / ( _ ) / /_ ___ ___ _ __ ___ \ \ /\ / / | |/ / | |_ \ / _ \| '_ \ / __/ _ \| '_ ` _ \ \ V V /| | <| |___) | (_) | (_) | (_| (_) | | | | | | \_/\_/ |_|_|\_\_|____/ \___/ \___(_)___\___/|_| |_| |_|
Mewn bioleg, tacsonomeg (o'r Groeg hynafol τάξις sef tacsis) yw'r astudiaeth wyddonol o enwi, diffinio a dosbarthu grwpiau o organebau biolegol yn seiliedig ar nodweddion cyffredin. Mae organebau wedi'u grwpio'n tacsa (unigol: tacson) a rhoddir rheng dacsonomig i'r grwpiau hyn; gellir rhestru rheng benodol i ffurfio grŵp mwy cynhwysol o safle uwch, gan greu yr hyn a elwir yn 'hierarchaeth dacsonomig'. Y prif rengoedd heddiw yw parth, teyrnas, ffylwm (defnyddir rhaniad weithiau mewn botaneg yn lle ffylwm), dosbarth, urdd, teulu, genws, a rhywogaeth. Ystyrir y botanegydd o Sweden, Carl Linnaeus, fel sylfaenydd y system dacsonomeg, wrth iddo ddatblygu system restredig a elwir yn dacsonomeg Linnaeaidd ar gyfer categoreiddio organebau ac enwau deuenwol ar gyfer enwi organebau.
Gyda datblygiadau mewn theori, data a thechnoleg ddadansoddol o systemateg fiolegol, mae'r system Linnaeaidd wedi trawsnewid yn system o ddosbarthu biolegol modern gyda'r bwriad o adlewyrchu'r perthnasoedd esblygiadol rhwng organebau byw ac wedi difodi.
Mae union ddiffiniad tacsonomeg yn amrywio o ffynhonnell i ffynhonnell, ond erys craidd y ddisgyblaeth: cenhedlu, enwi a dosbarthu grwpiau o organebau. Fel pwyntiau cyfeirio, cyflwynir diffiniadau diweddar o dacsonomeg isod:
Mae'r diffiniadau amrywiol hyn naill ai'n gosod tacsonomeg fel is-faes o systemateg (diffiniad 2), yn gwrthdroi'r berthynas honno (diffiniad 6), neu'n ymddangos eu bod yn ystyried y ddau derm yn gyfystyr. Ceir rhywfaint o anghytundeb a yw enwi biolegol yn cael ei ystyried yn rhan o dacsonomeg (diffiniadau 1 a 2), neu’n rhan o systemateg y tu allan i dacsonomeg. Er enghraifft, mae diffiniad 6 wedi'i baru â'r diffiniad canlynol o systemateg sy'n gosod y gyfundrefn enwau (nomenclature) y tu allan i dacsonomeg:
Dyma'r hierarchaeth o dacsonau, gyda'r prif rengau mewn teip trwm.
¹ Rhaniad neu adran Divisio: dewis arall i Ffylwm ar gyfer planhigion, ffyngau a bacteria
Rhenc | Pryf ffrwythau | Bod dynol | Pysen | Amanita'r pryfed | E. coli |
---|---|---|---|---|---|
Parth | Eukaryota | Eukaryota | Eukaryota | Eukaryota | Bacteria |
Teyrnas | Animalia | Animalia | Plantae | Fungi | |
Ffylwm | Arthropoda | Chordata | Magnoliophyta | Basidiomycota | Proteobacteria |
Is-ffylwm | Hexapoda | Vertebrata | Magnoliophytina | Hymenomycotina | |
Dosbarth | Insecta | Mammalia | Magnoliopsida | Homobasidiomycetae | Gammaproteobacteria |
Is-ddosbarth | Pterygota | Placentalia | Magnoliidae | Hymenomycetes | |
Urdd | Diptera | Primates | Fabales | Agaricales | Enterobacteriales |
Is-urdd | Brachycera | Haplorrhini | Fabineae | Agaricineae | |
Teulu | Drosophilidae | Hominidae | Fabaceae | Amanitaceae | Enterobacteriaceae |
Is-deulu | Drosophilinae | Homininae | Faboideae | Amanitoideae | |
Genws | Drosophila | Homo | Pisum | Amanita | Escherichia |
Rhywogaeth | D. melanogaster | H. sapiens | P. sativum | A. muscaria | E. coli |
Yn yr Yr Oesoedd Canol disgrifiwyd rhywogaethau gwahanol o fewn genws gyda rhestr hir o dermau Lladin. Nid tan y 18fed ganrif y cyflwynodd Carolus Linnaeus (1707-1778) y system sy’n dal mewn defnydd heddiw, lle defnyddir dim ond dau air, un am y genws ac un am y rhywogaeth. Yr enw am y system hon yw'r system ddeuenwol. Yn Systema Naturae Carolus Linnaeus (1735), rhennir pethau byw yn ddwy deyrnas: Animalia a Vegetabilia. Ers hynny, datblygodd gwayddoniaeth a thechnoleg ac mae llawer wedi ei ganfod ynglŷn ag organebau un-gellog, ymysg pethau eraill, felly roedd angen system mwy cynnil. Yn y 1960au cyflwynwyd y gair 'Rank' a newidiwyd yn ei dro i 'Domain' (Cymraeg: Parth).
Un system o'r fath yw'r system 6-teyrnas a ddefnyddir yn UDA, lle rhennir organebau yn Bacteria, Archaea, Protista, Fungi (Ffwng), Plantae (Planhigion) ac Animalia (neu 'Anifeiliaid'). Yng ngwledydd Prydain, India, Awstralia ac America Ladin, fodd bynnag, defnyddir 5-teyrnas, sef: Anifeiliaid, Planhigion, Ffwng, Protista a Monera. Mae rhai dulliau o ddosbarthu bywyd yn hepgor y term "Teyrnas", gan nodi nad yw'r teyrnasoedd traddodiadol yn perthyn i un hynafiad cyffredin.
Mae'r tabl canlynol yn crynhoi datblygiad y systemau o ddosbarthu pethau byw dros y blynyddoedd.
Linnaeus 1735 |
Haeckel 1866 |
Chatton 1925 |
Copeland 1938 |
Whittaker 1969 |
Woese et al. 1977 |
Woese et al. 1990 |
Cavalier-Smith 1993 |
Cavalier-Smith 1998 |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
2 teyrnas | 3 teyrnas | 2 ymerodraeth | 4 teyrnas | 5 teyrnas | 6 kingdoms | 3 parth | 8 teyrnas | 6 teyrnas |
(dim) | Protista | Prokaryota | Monera | Monera | Eubacteria | Bacteria | Eubacteria | Bacteria |
Archaebacteria | Archaea | Archaebacteria | ||||||
Eukaryota | Protista | Protista | Protista | Eucarya | Archezoa | Protosoa | ||
Protosoa | ||||||||
Chromista | Chromista | |||||||
Planhigion | Plantae | Plantae | Plantae | Plantae | Plantae | Plantae | ||
Ffwng | Ffwng | Ffwng | Ffwng | |||||
Animalia | Animalia | Animalia | Animalia | Animalia | Animalia | Animalia |
|publisher=
(help)