_ _    _ _____  ___   __                       
 __      _(_) | _(_)___ / ( _ ) / /_   ___ ___  _ __ ___  
 \ \ /\ / / | |/ / | |_ \ / _ \| '_ \ / __/ _ \| '_ ` _ \ 
  \ V  V /| |   <| |___) | (_) | (_) | (_| (_) | | | | | |
   \_/\_/ |_|_|\_\_|____/ \___/ \___(_)___\___/|_| |_| |_|

Gemeinsame Normdatei

Enghraifft o gofnod GND

Ffeil awdurdodi yw'r Gemeinsame Normdatei ("Ffeil awdurdodi unedig"; Saesneg: Integrated Authority File) neu GND. Mae'n cynnwys cofnodion o ddata am amryw o bynciau, sy'n cynorthwyo creu a chynnal catalogau. Fe'i datblygwyd gan nifer o sefydliadau ym myd y llyfrgelloedd Almaeneg, gan gynnwys y Deutsche Nationalbibliothek. Mae'r GND yn gyfuniad o sawl ffeil awdurdodi blaenorol, a oedd yn trin pynciau penodol, dan un ffeil cyffredin (ystyr gemeinsam); unwyd y rhain ym mis Ebrill 2012. Caiff y GND ei ddefnyddio gan lyfrgelloedd, amgueddfeydd, archifdai a golygwyr cyfeiriaduron.

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Wiechmann, Brigitte. Integrated Authority File (GND). Deutsche Nationalbibliothek. Adalwyd ar 28 Tachwedd 2014.

Gweler hefyd