_ _ _ _____ ___ __ __ _(_) | _(_)___ / ( _ ) / /_ ___ ___ _ __ ___ \ \ /\ / / | |/ / | |_ \ / _ \| '_ \ / __/ _ \| '_ ` _ \ \ V V /| | <| |___) | (_) | (_) | (_| (_) | | | | | | \_/\_/ |_|_|\_\_|____/ \___/ \___(_)___\___/|_| |_| |_|
Enghraifft o'r canlynol | swydd gyhoeddus |
---|---|
Math | prif weinidog, Great Officer of State |
Label brodorol | Prime Minister of the United Kingdom |
Rhan o | Cabinet y Deyrnas Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 4 Ebrill 1721 |
Deiliad presennol | Rishi Sunak |
Deiliaid a'u cyfnodau | |
Enw brodorol | Prime Minister of the United Kingdom |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.gov.uk/government/organisations/prime-ministers-office-10-downing-street |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pennaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Mae'n bennaeth Llywodraeth Ei Fawrhydi a Chabinet y Deyrnas Unedig. Y Prif Weinidog cyfredol yw Rishi Sunak, a apwyntiwyd gan Frenin y DU. Cartref swyddogol y Prif weinidog yw 10 Stryd Downing, Llundain a'r cartref gwledig yw Chequers. Gyda Gweinidogion y Cabinet mae'n atebol i'r Llywodraeth, i Goron Lloegr, i'w blaid ei hun ac yn y pendraw i'w bobl.
Nid yw'r swydd hon wedi'i diffinio o fewn unrhyw gyfansoddiad na deddfwriaeth eithr drwy draddodiad yn unig, sy'n mynnu fod yn rhaid i'r frenhiniaeth benodi'r person mwyaf tebygol o hawlio ffydd aelodau'r Tŷ'r Cyffredin yn Brif Weinidog. Drwy draddodiad, mae'n penodi arweinydd y blaid a enillodd y fwyaf o seddi yn siambr San Steffan.
Ni chrewyd y swydd, felly; cafodd ei ffurfio'n araf dros dri chan mlynedd a hynny mewn modd penchwiban. Mae gwreiddiau'r swydd i'w canfod mewn newidiadau cyffrous yn y cyfansoddiad rhwng 1688 a 1720 a'r modd y symudodd y pwer o ddwylo'r frenhiniaeth i ddwylo'r Llywodraeth. Gwnaed hyn, yng ngwledydd Prydain, nid drwy chwyldro a chwalu'r frenhiniaeth eithr drwy iddi hi neu ef lywodraethu drwy'r Prif Weinidog. Mae'r frenhiniaeth, felly, wedi parhau'n bennaeth ar y Llywodraeth, ond mewn enw a seremoni'n unig.
Erbyn y 1830au, roedd y system llywodraethol yn San Steffan wedi deor o'i blisg; roedd y Prif weinidog yn primus inter pares, neu'n gydradd, o fewn y Cabinet ac yn bennaeth ar y Llywodraeth. Esblygodd y swydd law yn llaw ag esblygiad y pleidiau gwleidyddol a datblygiad y cyfryngau torfol megis teledu, radio, papurau, ffotograffiaeth a'r rhyngrwyd.
Cyn 1902 deuai'r Prif Weinidog weithiau o Dŷ'r Arglwyddi ond wrth i bwer yr Arglwyddi wanychu yn ystod y 19g cryfhaodd y traddodiad iddo eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin. Cadarnhawyd hyn gan Ddeddf 1911 a roddodd fwy o rym i Dŷ'r Arglwyddi ar dael Tŷ'r Arglwyddi. Oherwydd yr holl bwer unbeniaethol hwn ofna rhai fod trefn "Arlywyddol" Unol daleithiau'r America wedi ei gyrraedd.
Gan nad yw'r swydd wedi'i chreu'n swyddogol, ni ellir datgan unwaith-ac-am-byth pwy oedd yn y swydd yn gyntaf. Eithr, yn answyddogol, gellir nodi Robert Walpole a ddaeth i swydd "Yr Arglwydd Cyntaf i'r Trysorlys" ym 1721.