_ _    _ _____  ___   __                       
 __      _(_) | _(_)___ / ( _ ) / /_   ___ ___  _ __ ___  
 \ \ /\ / / | |/ / | |_ \ / _ \| '_ \ / __/ _ \| '_ ` _ \ 
  \ V  V /| |   <| |___) | (_) | (_) | (_| (_) | | | | | |
   \_/\_/ |_|_|\_\_|____/ \___/ \___(_)___\___/|_| |_| |_|

Silindr

Tun ffa-pob gwag.

Mae silindr (enw gwrywaidd) yn siâp geometrig solid eitha cyffredin. Fe'i ceir o'n cwmpas o ddydd i ddydd e.e. tun ffa pob, bwrn mawr o wair neu'r rhan hir o'r gwn. Daw o'r gair Groeg am 'rholiwr', sef κύλινδρος – kulindros.

Arferid dweud fod silindr yn hollol solid, ee y tun ffa-pob heb ei agor (gyda chaead a gwaelod) ond mae'r diffiniad mathemategol wedi newid i edrych ar y silindr fel arwyneb cromlinog anfeidraidd. Yn yr erthygl hon disgrifir y ddau ystyr i silindr: y solid a'r arwyneb, ac at dryddydd, sef y silindr crwn gydag ongl sgwâr.

Uchder y silindr yw hyd y perpendicwlar sydd rhwng ei sylfaeni (y top a'r gwaelod).

Cyfaint

Os yw radiws r sylfaen y silindr cylch a'i uchder yn h, yna gellir cyfrifo'r cyfaint gyda'r hafaliad]]:

V = πr2h.

Oriel

Cyfeiriadau

  1. κύλινδρος Archifwyd 2013-07-30 yn y Peiriant Wayback., Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, ar Perseus